Amcan y Project

Bydd project NOAR yn datblygu uned ymchwil a datblygu molysgiaid dwygragennog arloesol ar raddfa beilot ar gyfer yr wystrys brodorol O. edulis, gyda'r gallu i ddatblygu protocolau a systemau arloesol i alluogi cynhyrchu wystrys had trwy gydol y flwyddyn, yn ôl y galw, i'w defnyddio gan fentrau adfer cynefinoedd a thyfwyr pysgod cregyn sy'n magu wystrys i'w bwyta. 

Pecynnau Gwaith

  • PG1 - Rheoli ac adrodd
  • PG2 - Sefydlu'r cyfleusterau
  • PG3 - Cyflyru stoc bridio a rheoli allbwn atgenhedlu
  • PG4 - Optimeiddio magu a setlo larfau gan ddefnyddio cregyn wystrys
  • PG5 - Datblygu arferion gorau ar gyfer magu meithrinfa a thyfu wystrys had i adfer cynefinoedd.
  • PG6 - Lliniaru afiechyd
  • PG6 - Hyrwyddo a lledaenu'r project