Perthnasedd Hanesyddol ac Ecolegol

Perthnasedd Hanesyddol Ostrea edulis i Gymru

Mae’r wystrys brodorol, Ostrea edulis, wedi hen sefydlu fel rhywogaeth o arwyddocâd diwylliannol mewn cymunedau arfordirol o gwmpas y Deyrnas Unedig. Yng Nghymru, roedd y diwydiant wystrys brodorol yn ysgogydd economaidd-gymdeithasol o bwys i lawer o’r cymunedau arfordirol sy’n bodoli heddiw. Yng nghanol yr 1800au roedd gan bysgodfeydd fel y rhai hynny ar y Fenai ac aber yr afon Conwy > 60 o gychod yn cynaeafu wystrys tra bod wystryswyr y Mwmbwls yn glanio dros 18 miliwn o wystrys yn flynyddol o’r gwelyau yno.   

Mae O. edulis wedi cael ei gynaeafu o ddyfroedd Cymru ers cyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig, ac mae olion wystrys wedi cael eu canfod mewn tomenni sbwriel mewn safleoedd archeolegol fel Caerllion a Chaerwent sy’n dyddio’n ôl i 75-400AD. Parhaodd wystrys yn ffynhonnell fwyd trwy gydol yr Oesoedd Canol a chael eu hecsbloetio’n helaeth yn y cyfnod ôl-ganoloesol ac roedd dyfroedd glannau Cymru yn cynnal pysgodfeydd wystrys brodorol cynhyrchiol i gymunedau gwledig ar hyd yr arfordir. Cynyddwyd effeithlonrwydd pysgota pan gyflwynwyd cychod stêm ac yna cychod modur yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif, a hynny ar draul y stociau gwyllt a gyfrannodd at eu dirywiad.

Cwymp y pysgodfeydd 

Dros y 200 mlynedd diwethaf mae stociau O. edulis wedi dioddef oherwydd gor-ecsbloetio (diffyg rheoliadau yn diffinio mynediad at stociau a’u dyrannu), afiechyd (y parasit Bonamia ostreae a'r protosoan Marteilia refringens), plâu (yr ewin mochyn Crepidula fornicata), llygredd (Tributyltin (TBT), hydrocarbonau a metelau trwm) a gaeafau difrifol. Mae'r cyfuniad o'r ffactorau hyn wedi arwain at ddirywiad aruthrol ym mhoblogaethau O. edulis o gwmpas arfordir y Deyrnas Unedig.

Adferiad a phwysigrwydd ecolegol 

Mewn blynyddoedd diweddar mae O. edulis unwaith eto wedi dod yn rhywogaeth o bwys masnachol ac ecolegol. Mae ymchwydd diweddar yn y galw am fentrau i ailstocio ac adfer riffiau wedi arwain at gynnydd pellach yn y galw am had O. edulis ac mae’r galw cyffredinol am y cynnyrch wedi cynyddu tu hwnt i’r galw amdano fel bwyd i bobl yn unig.

Trwy ffurfio riffiau, mae wystrys yn creu cynefin sy'n hwyluso cynnydd mewn bioamrywiaeth, maent yn ffynhonnell fwyd, yn feithrinfa ac yn lloches i nifer o rywogaethau gan gynnwys cramenogion a gastropodau, a dangoswyd hefyd eu bod yn hybu stociau pysgod a chramenogion. Mae riffiau wystrys hefyd yn cynnig amddiffyniad arfordirol naturiol yn ogystal â dal a storio carbon yn barhaol o'r atmosffer, sy'n ystyriaeth bwysig wrth liniaru effaith newid hinsawdd.

 

Project Ymchwil Dyframaeth Wystrys Brodorol (NOAR).

Bydd NOAR yn sefydlu deorfa ar raddfa beilot ar gyfer O. edulis gan ddefnyddio arloesedd i ddatblygu’r gallu i gynhyrchu wystrys trwy gydol y flwyddyn ar gyfer adfer cynefin yn ogystal â chreu adnodd bwyd i bobl. Bydd agweddau hollbwysig ar feithrin deorfeydd yn cael eu hoptimeiddio gan gynnwys cyflyru stoc bridio, rheoli allbwn atgenhedlol, magu a setlo larfau, magu had a thyfu parhaus, yn ogystal â rheoli pathogenau. I hwyluso cynnydd yn y cynnyrch yng Nghymru ac mewn mannau eraill, trosglwyddo gwybodaeth i randdeiliaid trwy weithdai a datblygu canllawiau a phrotocolau ynglŷn ag arferion gorau.