Cynaliadwyedd

Bydd project NOAR yn gweithio yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015  ac yn sicrhau bod ein tîm yn gallu dangos ein bod yn rhoi gwir ystyriaeth i lesiant cenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol ym mhopeth a wnawn.  

Bydd y project yn cynhyrchu Themâu Trawsbynciol a ysgogir gan angen gwirioneddol, a gydnabyddir gan y project hwn, a phan fo cyfle gwirioneddol yn codi i ymgysylltu'n effeithiol â hwynt. Bydd hyn yn adlewyrchu ymrwymiad Prifysgol Bangor i ddatblygu’n 'Brifysgol gynaliadwy' yn unol â’i Chynllun Strategol 2015-2020.  

1. Yr Egwyddor Datblygiad Cynaliadwy yw ein canllaw sylfaenol: Bydd y project yn ymroi i’w weithgareddau mewn ffordd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain. 

2. Er mai arloesi i fynd i'r afael â'r heriau mawr i hybu'r economi fydd prif gymhelliant y project, mae'n cydnabod bod yr economi yn gyd-ddibynnol ar yr amgylchedd, cymdeithas a diwylliant.  

3. Er mwyn cyflawni hyn bydd NOAR yn mabwysiadu’r pum ffordd ganlynol o weithio: 

  • Meddwl tymor hir: Cyfrannu at ddyheadau tymor hir Prifysgol Bangor, y sector cynhyrchu pysgod cregyn a Llywodraeth Cymru.  Ond hefyd sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a'r angen i ddiogelu'r gallu i gyflawni anghenion tymor hir.  
  • Mae atal yn well na gwella: Adolygu cynlluniau project i atal problemau rhag digwydd, ac yn gyferbyniol gwella gallu ymchwil ac effaith y Brifysgol a helpu Cymru i dyfu ei chyfran o’r farchnad pysgod cregyn. 
  • Integreiddio: Integreiddio â mentrau eraill yn y Brifysgol, ac yn ehangach, sy’n mynd i’r afael â diogelu a gwella’r amgylchedd, effeithlonrwydd adnoddau, dyframaeth pysgod cregyn a gweithgareddau ffermio, yn ogystal â newid hinsawdd i ddarparu cyfleoedd yng Nghymru a thu hwnt. 
  • Cydweithio: Gweithwyr NOAR, y Brifysgol ehangach, y sector pysgod cregyn ac amgylchedd y môr yn cydweithio i gyflawni nodau synergaidd. 
  • Cyd-ymwneud: Cyd-ymwneud agored a chynhwysol rhwng rhai sydd â diddordeb mewn cyflawni hyn, megis partneriaethau academaidd/masnachol/partneriaethau’r Llywodraeth/cyrff anllywodraethol, yng nghyd-destun nodau a dulliau llesiant o weithio. 

4. Ein nod yw dangos bod ein gweithgareddau yn cyfrannu at y nodau llesiant canlynol: 

  • Cymru lewyrchus: Cyfrannu at gymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy'n defnyddio ei hadnoddau'n effeithlon ac yn gymesur 
  • Cymru gydnerth: Creu amgylchedd iach sy'n cefnogi gwytnwch cymdeithasol, economaidd ac ecolegol, cymdeithas sy'n addasu i newid  
  • Cymru fwy cyfartal: Galluogi pobl i gyflawni eu potensial waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau 
  • Cymru o gymunedau cydlynus: Creu cyfleoedd cyflogaeth yn y sector pysgod cregyn, yn ogystal â mewn gwasanaethau cefnogaeth ehangach mewn cymunedau lleol 
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu: Hyrwyddo a gwarchod diwylliant, treftadaeth ac iaith 
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eangYstyried effeithiau ehangach ein penderfyniadau a'n gweithredoedd