Cwrdd â’r Tîm

Mae Dr Shelagh Malham (Cyfarwyddwr Project) yn Ddarllenydd mewn Bioleg Môr ym Mhrifysgol Bangor. Mae gan Dr Malham brofiad ymchwil helaeth yn ymwneud â physgod cregyn ac arbenigedd mewn clefyd pysgod cregyn, ansawdd dŵr microbaidd a phrosesau a swyddogaethau ecolegol cyfredol sy'n rheoli iechyd pysgod cregyn. Fel cyfarwyddwr project NOAR, bydd Dr Malham yn gyfrifol am bob agwedd ar ddarpariaeth y project. 

E-bost cyswllt: s.malham@bangor.ac.uk

Mae Dr Nick Jones (cyd-arweinydd PG 2, 3, 4, a 5) yn ymchwilydd ôl-ddoethurol gyda thros 20 mlynedd o brofiad mewn bioleg molysgiaid, hwsmonaeth anifeiliaid, cynhyrchu dyframaeth cynaliadwy, dylunio ac adeiladu deorfeydd. Mae Dr Jones wedi gweithio yn gyfochrog ac o fewn y diwydiant dyframaeth masnachol ac wedi bod yn gyfrannwr blaenllaw at amryw o brojectau dyframaeth a ariannwyd gan yr Undeb Ewropeaidd. 

Cyswllt e-bost: n.j.e.jones@bangor.ac.uk

Mae Dr Tom Galley (cyd-arweinydd PG 2, 3, 4, a 5) yn ymchwilydd ôl-ddoethurol gyda thros 15 mlynedd o brofiad mewn ymchwil ac arloesi dyframaeth môr tymherus a throfannol. Mae ganddo brofiad o ddylunio ac adeiladu cyfleusterau deorfeydd ymchwil, hwsmonaeth anifeiliaid, ac o weithio ochr yn ochr â rhanddeiliaid y diwydiant. Mae Dr Galley wedi cymryd rhan flaenllaw mewn nifer o brojectau dyframaeth blaenorol a ariannwyd gan yr Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys rhai oedd yn canolbwyntio ar arloesi ac optimeiddio cynhyrchiad deorfeydd i rywogaethau dwygragennog o bwys masnachol.

E-bost cyswllt: t.h.galley@bangor.ac.uk

Mae Mr Robin Love yn Swyddog Cefnogi Project Ymchwil sy'n cynorthwyo ar draws pob pecyn gwaith gyda phrofiad mewn systemau dyframaeth, diwylliant molysgiaid dwygragennog a phrofiad diwydiant.

Cyswllt e-bost: r.love@bangor.ac.uk

Mae Dr David Smyth (cyd-arweinydd PG 1 a 4) yn ymchwilydd ôl-ddoethurol sydd wedi chwarae rhan flaenllaw mewn projectau blaenorol yn canolbwyntio ar adfer stociau pysgod cregyn sydd dan fygythiad yn y Deyrnas Unedig a Gwlff Persia. Mae Dr Smyth yn ymchwilydd blaenllaw yn Ewrop ym maes dynameg poblogaeth, swbstradau setliadau a strategaethau i wella stoc yr wystrys Ostrea edulis brodorol. Mae hefyd yn aelod gweithgar o Rwydwaith Adfer Wystrys Brodorol yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon y Gymdeithas Sŵolegol a Chynghrair Adfer Wystrys Brodorol Ewrop.

E-bost cyswllt: d.smyth@bangor.ac.uk

Mae Dr Kata Farkas (cyd-arweinydd PG6) yn ymchwilydd ôl-ddoethurol ac yn firolegydd amgylcheddol hynod brofiadol, gyda phrofiad helaeth mewn microbioleg ddyfrol a firoleg, canfod firysau, meintioli ac ecoleg a datblygu dulliau moleciwlaidd ar gyfer adnabod microbau/firysau. Mae Dr Farkas hefyd ar hyn o bryd yn wyddonydd ymchwil ar y Ganolfan Pysgod Cregyn a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, a'i phrif nod ymchwil yno yw deall tynged ac ymddygiad firysau enterig yn yr amgylchedd dyfrol ac mewn pysgod cregyn.

Cyswllt e-bost: k.farkas@bangor.ac.uk

Mae’r Athro Lewis Le Vay (cyd-arweinydd PG 1 a 7 a goruchwyliwr y project) yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Gwyddorau Môr Cymhwysol (CAMS) ym Mhrifysgol Bangor. Mae ganddo hefyd hanes hir o dros 30 mlynedd o ymchwil ac arloesi dyframaeth, ac wedi gweithio'n agos yn aml gyda diwydiant a rheoleiddwyr.

Cyswllt e-bost: l.levay@bangor.ac.uk

Karen Tuson (Rheolwr Project: cyd-arweinydd PG 1)

Cyswllt e-bost: K.tuson@bangor.ac.uk

Jennifer Roberts (Gweinyddwr y Project)

Cyswllt e-bost: jennifer.roberts@bangor.ac.uk

Ros James (Cyllid y Project a Chynorthwyydd Gweinyddol) 

Cyswllt e-bost: r.james@bangor.ac.uk

Gareth Jones (Cyfrifydd y Project)